|
Y Pwyllgor Cyllid |
|
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
|
||||
|
Dyddiad: |
Dydd Llun, 20 Chwefror 2012 |
|
|||
|
|
|
||||
|
Amser: |
13:00 - 14:10 |
|
|||
|
|
|
||||
|
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
|
|||||
|
|
|||||
|
|
|||||
|
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|
|||
|
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Paul Davies Mike Hedges Ann Jones Julie Morgan Ieuan Wyn Jones Jane Hutt |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Tystion: |
|
Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru Jo Salway, Acting Deputy Director of Strategic Budgeting Martin Sollis, Deputy Director of Finance |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Staff y Pwyllgor: |
|
Tom Jackson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Eleanor Roy (Ymchwilydd) |
|||
|
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
2. Cyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2011-2012 - y Gweinidog Cyllid
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid; Jo Salway, Pennaeth Cyllidebu Strategol; Martin Sollis, y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid; a Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol.
2.2 Holodd yr Aelodau y Gweinidog.
Pwyntiau gweithredu:
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:
· Manylion am sut mae cyfalaf ychwanegol wedi cael ei fuddsoddi yn y portffolio Gwasanaethau Canolog.
· Nodyn yn amlygu’r broses o gysoni’r prif grŵp gwariant addysg a sgiliau â’r strwythur yn y gyllideb ddrafft, gan adlewyrchu’r newidiadau i’r gyllideb atodol bresennol.
· Eglurhad ynghylch a fydd Cronfa Twf Economaidd Cymru yn dod o’r Gronfa Fuddsoddi Sengl Etifeddol ac ynghylch a oedd tanwariant yn y Gronfa Fuddsoddi Sengl Etifeddol.
· Rhagor o fanylion am y Gronfa Buddsoddi i Arbed, gan gynnwys eglurhad ynghylch ar gyfer pa flwyddyn ariannol y byddai’r £10 miliwn ychwanegol o gyllid buddsoddi i arbed (a gyhoeddwyd gan y Gweinidog ym mis Rhagfyr 2011) yn cael ei ddyrannu.
· Rhestr o’r holl broffiliau gwobrwyo ac ad-dalu a wnaed o fewn y Gronfa Buddsoddi i Arbed.
3. Papurau i'w nodi
3.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch Rhaglenni Gwaith Cenedlaethol grŵp arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus.
3.2 Cadarnhaodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod ar 25 Ionawr 2012.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Eitemau 5-7
5. Protocol drafft â Llywodraeth Cymru ar y gyllideb
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ran 1 o’i brotocol â Llywodraeth Cymru ar y gyllideb.
6. Benthyca darbodus a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf - cynghorydd arbenigol
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar benodiad cynghorydd arbenigol ar gyfer ei ymchwiliad i Fenthyca darbodus a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf.
7. Trafod y dystiolaeth - cyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2011-2012
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’i Chyllideb Atodol ar gyfer 2011-2012.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod